Cyfarfod Blynyddol a Chinio 13 Tachwedd
Cafwyd cyfarfod cyn ein Cinio Blynyddol yng Ngwesty’r Oakley ym Maentwrog i dderbyn diffribliwr a roddir yn anrheg i’r clwb gan deulu Castell Hen (neu ’Styllen), Parc, ger y Bala er cof am Gareth Pierce. Mae hwn yn fersiwn arbennig iawn, yn fach ac ysgafn, ac wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Y bwriad yw ei gludo ar bob taith, a bydd y clwb ei hun yn prynu ail un yr un fath ar gyfer teithiau yn ne Cymru.
Croesawyd atom Lona Puw, a oedd yn fodryb i Gareth drwy ei gŵr, y diweddar dan Puw, ac Euros a Ffuon, cefnder a chyfnither i Gareth. Byddai Gareth yn blentyn a gŵr ifanc yn treulio ei wyliau’n byw a gweithio yn ‘Styllen a rhannwyd atgofion hoffus iawn o Gareth gan Euros. Ac yntau rhai blynyddoedd yn hŷn, roedd Gareth yn dipyn o arwr iddynt ac yn ddylanwad pwysig arnynt. Er hynny, dywedodd Euros iddo fethu mewn un cyfeiriad; ni lwyddodd i ennyn ynddo ddiddordeb mewn mynyddda!
Roedd yn fraint arbennig hefyd bod Lynwen Pierce, gweddw Gareth, a Luned Pierce ei chwaer yn gallu bod gyda ni. Gobeithio iddynt fwynhau ein cwmni, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd.
Estynnwyd croeso i bawb gan ein Cadeirydd, Dwynwen Pennant, a dalodd deyrnged i Gareth fel un o aelodau ffyddlonaf Clwb Mynydda Cymru a chyd-gerddwr hawddgar a chyfaill annwyl a hoffus dros ben.
Diolch hefyd i Tomos Hughes o Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru (llun uchod) am drefnu i brynu’r diffriblwyr ac am ddod i Faentwrog a rhoi ei gyngor gwerthfawr ar sut i’w defnyddio a gofalu amdanynt.
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Iolo ap Gwynn a Sioned ar FLICKR